Gwrogaeth gwin y gwan i Guinness

Cwrw tywyll newydd yn cael ei lansio yng Ngŵyl Fwyd Môn

Gyda Dydd Padrig Sant ar y gorwel, mae’n ddigon i wneud i Wyddel wylo.
Mae’r honiad mai yng Nghymru fod gwreiddiau’r cwrw eiconig, Guinness, wedi ysbrydoli cwrw tywyll newydd sy’n cael ei lansio gan yr Anglesey Brewing Company.

Bydd y pen bragwr, Tom Adamson, yn datgelu’r cwrw newydd yng Ngŵyl Fwyd gyntaf Môn a fydd yn cael ei chynnal ar Faes Sioe Môn o ddydd Iau 30 Mai tan ddydd Sadwrn 1 Mehefin.

Mae Tom, sy’n byw yng Ngharmel, ger Llannerchymedd, wedi galw ei gwrw newydd yn Gwin y Gwan, sef y slogan oedd yn cael ei ddefnyddio gan Guinness yn y 1950au mewn cyfres o hysbysebion Cymraeg.

Yn ôl Tom, sydd â diddordeb mawr mewn hanes bragu, cafodd Arthur Guinness flas at y cwrw tywyll wrth aros mewn tafarn y goets fawr yn Llanfairfechan, ar ran olaf ei deithiau’n ôl i Iwerddon ar ôl cyfarfodydd busnes yn Llundain.

Enw’r dafarn honno, mae’n debyg, oedd Gwin Du.

Meddai Tom: “Pan oedd Arthur Guinness yn aros yn y dafarn, roedd y perchennog yn bragu ei gwrw tywyll ei hunan ac, ar ôl sawl blwyddyn o deithio’n ôl ac ymlaen, gofynnodd i’r perchennog am risait y cwrw.

“Cytunodd y perchennog ar unwaith a dyna sut y cychwynnodd y Guinness rydyn ni mor hoff ohono, ac mae’r stori ers hynny yn hanes y diwydiant bragu.

“Gyda Gwin y Gwan, rwy’n talu gwrogaeth i un o gewri’r diwydiant bragu a’i wreiddiau Cymreig.

Yn ogystal â hopys a haidd, mae yna un cynhwysyn cudd yn Gwin y Gwan – burum arbennig. Mae’n blasu o bridd a siocled ac, ar 4.8%, nid yw’n rhy gryf.

“Rwyf wedi dewis yr enw Gwin y Gwan oherwydd dyna mae’r rhai sy’n hoffi Guinness yn ei alw byth ers yr hysbysebion enwog hynny oedd yn brolio ei allu i gryfhau hyd yn oed y gwannaf.

Gwin y Gwan oedd teitl albwm y band roc poblogaidd, Eliffant, a gafod ei ryddhau ym 1980.

Mae’r newydd mai Cymru a ddyfeisiodd Guinness yn ddigon i yrru’r Gwyddelod ar y botel, yn enwedig ar ddydd Padrig Sant, Sul 17 Mawrth.

Yn briodol iawn, fe fyddan nhw’n codi gwydryn i’w nawddsant a oedd, hefyd, yn ôl y sôn, yn Gymro.

Ganed Padrig tua 387AD ac roedd yn cael ei alw’n Maewyn Succat (cyfaill rhyfelgar).

Credir mai yn Bannavem Taburniae y cafodd ei eni, gallai hynny fod yn Banwen yng Ngwm Dulais ger Castell-nedd, lle cynhelir gwasanaeth bob blwyddyn i’w anrhydeddu.

Gŵyl Fwyd Môn fydd pen y daith hefyd i Lwybr Cwrw newydd ar draws Môn sy’n cael ei drefnu gan Shelley Barratt, cyfarwyddwr y cwmni o ogledd Cymru, The Real Ale Trail Company.

Bydd Gwin y Gwan ar gael mewn sawl tafarn sy’n cymryd rhan yn y llwybr.

Meddai Ms Barratt: “Mae Gŵyl Fwyd Môn yn ffordd ffantastig i fragwyr micro hyrwyddo eu cwrw.

“Mae yna bobl yn dod ar ein llwybrau cwrw o bob rhan o wledydd Prydain, yn arbennig i gael llymaid a blasu’r gwahanol gwrw. Mae gogledd Cymru’n ferw o gwrw unigryw ac ysbrydoledig fel Gwin y Gwan.”

Meddai trefnydd yr ŵyl fwyd, Davina Carey-Evans, rheolwr gyfarwyddwr Sbarc Event Management o Fiwmares: “Roeddwn i eisiau rhoi cyfle i gynhyrchwyr lleol ac o fannau eraill o Gymru ddangos eu bwydydd, eu diodydd a’u cynnyrch anhygoel i gynulleidfa mor eang â phosibl.

“Rwy’n credu fod yna gryn archwaeth am gynnal Gŵyl Fwyd ym Môn. Bydd yn gyfle i’r cyhoedd gael blas ar y gorau sydd gan ogledd Cymru a Môn i’w gynnig.

“Mae’n lle delfrydol ar gyfer gŵyl fwyd, un disgrifiad ar Fôn yw Môn Mam Cymru oherwydd bod ei thir ffrwythlon yn gallu tyfu digon o fwyd i fwydo Cymru gyfan.

”Ac, yn briodol iawn, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Faes Sioe Môn, cartref amaethyddiaeth yr ynys.

“Byddwn yn dod â physgotwyr, ffermwyr, cynhyrchwyr, bwytai a gwestai’r ardal at ei gilydd i arddangos amrywiaeth ryfeddol o fwydydd a chynnyrch eraill o’r ardal.
“Bydd yna hefyd wahanol arddangosfeydd coginio a chelf a chreft, cerddoriaeth a gweithgareddau i’r plant.

“Eisoes, mae’r diddordeb yn enfawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ŵyl wych.”